lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu hywel pitts – ailadrodd

Loading...

pan on i yn fy ‘teens’
oni ‘sho bod yn rock star, yn gerddor o fri
ond rwan dwi’n hyn
dwi’n hapus chwara gigs am ddrinc neu dri
dwi’m yn siwr os genai ddiffyg charisma
diffyg talent, diffyg hunan hyder
na, fedrai’m bod yn sicr pam
sgena i ddim ffans

ella bo’ fi’m yn dda iawn yn gwerthu fy hyn
ella does genai’m teulu yn y bbc
ella bo’ fi’n foi anhalentog sy’n meddwl gormod ohono’i hyn
mae raid bo’ ‘na reswm pam does ‘na neb yn prynnu fy cds

dwi ‘di trio bod yn ffraeth, dwi ‘di trio bod yn glyfar
dwi ‘di trio bod yn ddel i apelio i’r byddar
trio gwisgo ‘tha dyn, ‘di trio gwisgo ‘tha merch
‘di trio sgwennu am grefydd, ffemenyddiaeth a s-x

ond does ‘na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd
does ‘na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd
does ‘na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd
rhyw eiriau sy’n feddwl ‘im byd

dwi ‘di trio bob dim
dwi ‘di hyd yn oed rhoi fy ngwaith caled i ffwrdd
yn rhad ac am ddim
ond dal does neb yn cymryd unrhyw sylw
ella bo fi ddim yn ffashiynol
ella bo fy nhrowsus rhy dynn
ella bo fi dim yn da iawn yn dreiglo
sgenai’m syniad sut i gynganeddu

neu ella bo’ fi’m yn sgwenu digon o gigs
ella bo’ fy nghaneuon i ‘gyd yn… ddrwyg
ella bo’ fi’n foi anhalentog gyda gafael gwan ar y gwir
mae raid bo’ ‘na reswm pam does ‘na neb yn lawrlwytho fy mp3s

dwi ‘di trio bod folksy, dwi ‘di trio bod yn pync-rock
dwi ‘di trio bod yn chav ac yn mod ac yn goth
dwi ‘di trio bod yn dew, dwi ‘di trio bod yn dena’
dwi heb fynd i’r gym, sgenai’m yr arian na’r mynadd

ond does ‘na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd
ond does ‘na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd
ond does ‘na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd
rhyw eiria sy’n feddwl ‘im byd

dwi’m angen sylwedd, dwi’m angan brên
dwi angen pedwar cord a gwên
dwi’m angen sylwedd, dwi’m angan brên
dwi angen pedwar cord a gwên
dwi’m angen sylwedd, dwi’m angan brên
dwi angen pedwar cord a gwên
dwi’m angen sylwedd, dwi’m angan brên
dwi angen pedwar cord a..

dwi ‘di trio bod yn ddewr, ‘di trio bod yn ddiddorol
dwi ‘di trio bod yn frwnts, dwi ‘di trio bod yn ddoniol
‘di trio bod yn onast, trio bod yn wahanol
trio bod yn ddychanol, trio bod yn ddiddanol
dwi ‘di trio bod yn strêt, ac yn gê ac yn bi
‘di ymuno ‘fo’r tories a llafur a phlaid
dwi ‘di gneud petha stiwpid, ‘di ymuno ‘fo ukip
‘di creu profiles ar zoosk a tinder ac okcupid
dwi ‘di trio gweddïo i duw ac i allah
i’r holl dduwiau hindwaidd, a siddhartha gautama
dwi ‘di sgwennu’n gymraeg, ac yn saesneg a’n ffrangeg
‘di trio cyfiawnhau yr holl amser a’r ymdrech

ond does na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd
does ‘na’m byd yn plesio cweit ‘tha ailadrodd (repeat)


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...