lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu datblygu – cân i gymru

Loading...

gradd da yn y gymraeg
ar y volvo bathodyn tafod y ddraig
hoff o fynychu pwyllgorau blinedig
am ddyfodol yr iaith yn enwedig

meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
platiau dwyieithog i helpu’r gyrru
agwedd cwbl addas ar gyfer cynllun catrte
sydd mas o set dinas

wastad yn mynd i lydaw
byth yn mynd i ffrainc
wastad yn mynd i wlad y basg
byth yn mynd i sbaen

fin nos yn mynychu bwytai
wedi dydd ar y prosesydd geiriau
mewn swydd sy’n talu’r morgaits
i’ch gwyneb person cwbl cwrtais

o’r ysgol feithrin i brifysgol cymru
tocyn oes ar y trên grefi
byddai’n well da fi fod yn jynci
na bod mor wyrdd â phoster plaid cymru

darnau gosod yr ŵyl gerdd dant
a holl broblemau’r ddau o blant
gwersi telyn llinos wyn
a phroblem acne llywarch glyn
heb anghofio codi stŵr
am straen angheuol job y gŵr
mae’n gorfod gweithio 1:00 tan 3:00
yn gynhyrchydd bbc

llosgwch eich tafodau ar eich panedi piwritanaidd
collwch eich dynoliaeth mewn economeg academaidd
enwch gyfeillion sy’n enwogion i gyd o seiri rhyddion
trafodwch tapiau corau meibion a’r eitemau ar hel straeon

rhifau cynulleidfa’r oedfa
pha liw lenni’r lolfa
tiwtoriaid preifat i helpu’r plant
yn neuadd dewi sant

digon o wyliau i gynnal lliw haul
digon wrth brydeinig i swnio fel sieg heil

meistroli iaith lleiafrifol fel hobi
dweud fod cymru’n cael ei orthrymu
er fod eich ceir â’r sticyrs tafod y ddraig
achos gradd da yn y gymraeg

gradd da yn y gymraeg
gradd da yn y gymraeg
gradd da yn y gymraeg
yn eich volvos bathodyn tafod y ddraig
gradd da yn y gymraeg
gradd da yn y gymraeg
gradd da yn y gymraeg
cymraeg cymraeg cymraeg cymraeg

gradd da yn y gymraeg
ar y volvo

bla bla bla that’s done


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...