lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu cowbois rhos botwnnog – clawdd eithin

Loading...

[verse 1]
mi ges fy ngeni mewn clawdd eithin
ac am eiliad, fi oedd llŷn
dim ond am ennyd, rhyw bryd cyn hyn
ro’n i’n ysgeintiad glas a melyn
clyw ‘mhlentyndod hyd y caeau
a chlyw ‘mhen~blwydd i yn yr ha’
clyw rhyw oes pan o’n i yna
yn dân yn y brynia’
yn dân ddiwedd ha’

[chorus]
wn i ddim pam mod i’n teimlo fel hyn
a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd
wn i ddim pam mod i’n teimlo fel hyn

[verse 2]
mae’r plu yn heidio ynof i heno
a’u hofnau’n hefru trwy fy llaw
yn codi ‘mraich tra ‘mod i’n cysgu
a’n danfon fy nghorff i draw dros y bae
a wnest ti ymestyn tuag atat
ynteu ai ond y gwynt a drodd rhyw dro?
a’m rhoi ar ddamwain yn dy freichiau
a’m gadael i yna, hyd byth ar ben dy lôn
[chorus]
wn i ddim pam mod i’n teimlo fel hyn
a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd
wn i ddim pam mod i’n teimlo fel hyn

[bridge]
fel rhyw beth wedi’i adael ar ei hanner
rhyw beth a dorrodd yn dy law
rhyw bеth wedi’i adael ar ei hannеr

[guitar solo]

[chorus]
wn i ddim pam mod i’n teimlo fel hyn
a finna’n amau bod y byd ‘na wedi mynd
wn i ddim pam mod in teimlo fel hyn


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...