lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu bwncath – dos yn dy flaen

Loading...

wyt ti’n cofio braf oedd nosweithiau’r haf
pan oedda ni yn chwarae yng ngolau’r stryd
yr blant i’r byd, heb unrhyw gyfrifoldeb
cyn i lais prysurdeb ddod â’i gŵyn, i dy swyno

a’i hud, i ‘neud chdi deimlo’n gaeth, ond yn waeth
a wnaeth i chdi anghofio am dy ffydd
i dorri’n rhydd, rhyw ddydd yn dy ddyfodol
‘di’r amodau sy’n ddelfrydol byth am ddod

dos yn dy flaen, yn groes i’r graen
ti ‘di bod ffordd hyn o’r blaen
drwy y drysau sy’n dy feddwl dy hun
dos yn y nos i weld y sêr
sy’n treiddio’r asgwrn at y mêr
at yr heddwch sydd yng nghanol pob un
ar yr heddwch sy’n dy ganol di

dyro dy sgidia ‘mlaen, fel o’r blaen
dos i weld y dail yng ngola’r haul
mi glywi’r floedd sy’n galw o’r mynyddoedd
a’r sibrwd sy’n dy ddenu at y môr

dos yn dy flaen, yn groes i’r graen
ti ‘di bod ffordd hyn o’r blaen
drwy y drysau sy’n dy feddwl dy hun
dos yn y nos i weld y sêr
sy’n treiddio’r asgwrn at y mêr
at yr heddwch sydd yng nghanol pob un
ar yr heddwch sy’n dy ganol di

a chwilia’r llawr i gasglu pren
tra mae’r nefoedd uwch dy ben
cynna dân bach i g’nesu dy hun
gan gadw’th draed ar y llawr
a dy feddwl ar yn awr
a dy fryd ar un byd yn gytûn

dos yn dy flaen, yn groes i’r graen
ti ‘di bod ffordd hyn o’r blaen
drwy y drysau sy’n dy feddwl dy hun
dos yn y nos i weld y sêr
sy’n treiddio’r asgwrn at y mêr
at yr heddwch sydd yng nghanol pob un
ar yr heddwch sy’n dy ganol di


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...