
lirik lagu morfydd llwyn owen - suo gân
Loading...
huna blentyn ar fy mynwes
clyd a chynnes ydyw hon;
breichiau mam sy’n dynn amdanat
cariad mam sy dan fy mron;
ni chaiff dim amharu’th gyntun
ni wna undyn â thi gam;
huna’n dawel, annwyl blentyn
huna’n fwyn ar fron dy fam
huna’n dawel, heno, huna
huna’n fwyn, y tlws ei lun;
pam yr wyt yn awr yn gwenu
gwenu’n dirion yn dy hun?
ai angylion fry sy’n gwenu
arnat ti yn gwenu’n llon
tithau’n gwenu’n ôl dan huno
huno’n dawel ar fy mron?
paid ag ofni, dim ond deilen
gura, gura ar y ddôr;
paid ag ofni, ton fach unig
sua, sua ar lan y môr;
huna blentyn, nid oes yma
ddim i roddi iti fraw;
gwena’n dawel yn fy mynwes
ar yr engyl gwynion draw
Lirik lagu lainnya:
- lirik lagu lov3lessg1rl - straws are everywhere
- lirik lagu lil misstake - מסננת
- lirik lagu pessimist (usa) - abandoned us
- lirik lagu gocho - a pesar de todo
- lirik lagu james pullen - look up
- lirik lagu 2heaven - s&s
- lirik lagu erotic secrets of pompeii - we've all been cruel
- lirik lagu guitar - every day without fail
- lirik lagu goatbed - deeds, not words
- lirik lagu kaydrillz - "no pass outs"