lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu datblygu - nofel o'r hofel

Loading...

sai’n wyrdd neu ddim byd
sai’n becso am y byd
os es i â’m mhoteli gwag whisgi i’r banc poteli yn aberhonddu

ar y ffordd yn ôl roedd y cynffon nôl yn ymestyn llawer
ac roedd gormod o loriau yn dod yn fy erbyn
felly o’n i methu pasio unrhyw beth oedd yn dala fi lan
roedd pob car o’m mlaen am wneud 35 milltir yr awr
ar heol ble chi fod gwneud 60 milltir yr awr

pan wnes i drafferthu mynd â’m mhoteli gwag whisgi i’r banc poteli yn aberhonddu?

meddyliais fod gyrwyr araf yn fwy peryglus na rhai cyflym
gyrwyr araf: pob marlat, bwbach, bwbach, marlat
piti nad yw’r heddlu yn eu tynnu nhw draw
ond yn lle gwylltio troais at y radio
ar un sianel tywydd i longwyr
ar sianel arall darn arbrofol jazz ar ddolen tap, blociau pren a thrombôn
ar sianel arall, unigolyn rhwysgfawr o’r diwydiant adloniant yn dweud fod pawb a phopeth yn grêt
glynais at y darn arbrofol jazz, dolen tap, blociau pren, trombôn
ymunwch yn y gytgan

pan wnes i drafferthu mynd â’m mhotеli gwag whisgi i’r banc poteli yn aberhonddu?

daliodd y ceir tu flaеn lan gyda rhes o loriau tu ôl tractor
pwyllais, smygais, a meddyliais
am gyd o’r bandiau sgymraeg heb syniad rhyngddynt
maen nhw fel partïon cyd~adrodd efo smachau gwahanol
yn fy nrych welais ffwlcyn mewn siaced lledr a jîns wedi eu rhwygo yn tynnu allan
pasio heibio ar ei feic modur
daeth y siwrne i’r diwedd o’r diwedd
o’n nhw’n cyflymi i fyny i 20 milltir yr awr mewn rhanbarth 30 milltir yr awr
troais i’r chwith a meddwl am edward heath
cyrhaeddais fy hofel
ysgrifennais i’r nofel yma yn yr hofel yna
bronllys de powys ar brynhawn ffasgaidd

pan wnes i drafferthu mynd â’m mhoteli gwag whisgi i’r banc poteli yn aberhonddu?

sai’n wyrdd neu ddim byd
sai’n becso am y byd
os es i â’m mhoteli gwag whisgi i’r banc poteli yn aberhonddu

pan wnes i drafferthu mynd â’m mhoteli gwag whisgi i’r banc poteli yn aberhonddu?
aberhonddu

ysgrifennais i’r nofel yma yn yr hofel yna
bronllys de powys ar brynhawn ffasgaidd


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...