
lirik lagu datblygu - nid chwiwgi pwdin gwaed
nid chwiwgi pwdin gwaed yw ei destun
mae’n gweld y jôc pob dydd, ond nid yw’n chwerthin
hei nick! hei nick!
eniwe
o grombil ei esgyrn mae e eisiau clywed wild man fischer yn canu
nid yw e eisiau meddwl am fenywod rhwng 16 a 42
a’u nosweithiau cynnar ar welyau o siocled tywyll
gyda’u cariadon lladin yn turin, de cymru
neith gin a iâ sortio hwnna mas
neith gin a iâ sortio hwnna mas
neith gin a iâ sortio hwnna mas
terminoleg ei feddwl pydew heno ydi gofyn
ai ond fi a welodd y bioden unigol yna?
ai jyst fi a welodd y bioden unigol yna?
ai ond fi a welodd y bioden unigol yna?
o, mae’n croesi ei fysedd
taflu halen dros ei ysgwydd
ac er mwyn gwthio’r oriau
gwario ei deimladau yn rhestru ei gast bethau
papurau cerddoriaeth sy’n cael eu hysgrifennu yn llundain
hysbysebion, newyddion sîn miwsig manceinion
arsynnu ar yfory, ar arwyddion dim ysmygu sy’n mhobman
yna, mae’n taflu ei bensil at y wal
mae’n taflu ei bensil at y wal, pal
nid yw’r iesu yn un grasol
felly mae’n ysgrifennu y darn canlynol
popeth o dan y tail!
popeth o dan y tail!
geiriau fel ciniawa a jobyn
ac mae’n ailadrodd y geiriau dros naw tudalen o bapur
ac yna mae’n taflu ei bensil i’r wal
cnocio ei ben yn erbyn y wal
ac arllwys gwydr rhyddfrydol o rym
nid ydi gallu ffeindio ei record guy mitch~ll
nid ydi gallu ffeindio ei record guy mitch~ll
ond mae o wedi ymlacio
diolch yn fawr, iawn? a nos dawch
Lirik lagu lainnya:
- lirik lagu adambestgames - freestyle 2023
- lirik lagu krevetkins - dorosh all the way down
- lirik lagu airplane james - 2 crazy
- lirik lagu kurai bandz - sober
- lirik lagu thejoia - fevereiro novos ares
- lirik lagu dowel king - very good
- lirik lagu dion lunadon - nikki
- lirik lagu mellowhype - 666 [v1]
- lirik lagu teris chrysos - tha simanoun i kambanes
- lirik lagu kedela - occupation