lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu datblygu - nefoedd putain prydain

Loading...

cymry! eich sylw plîs
rhowch eich cl~stiau i’r cyfeiriad yma
mae’r rhyfel niwclear yn y beibl
barn duw ar gymdeithas ffôl
ond so’ chi’n becso am hynny
chi jyst eisiau roc a rol
so un, dau, tri, pedwar

chi’n gwisgo yn eich ffasiynau ffug fel crits ceidwadol yn y disgo
dim ond wrth gopïo rhywun arall y’ch chi’n gwybod beth i wisgo

achos putain fawr yw prydain fawr
yn marw’n araf ar y llawr
ac ni gewn ni y sylw rydym yn haeddu
gan ein bod ni’n byw mewn cymru crymi

rwy’n gweld merch â nodwydd yn ei braich
heroin yn cusannu ei gwaed
mae hi wedi cael digon o’r bywyd creulon
lle nad oes gobaith mewn un plaid

ac mae pobl fel moch mewn lladd~dŷ cas
darnau o gnawd yng ngheg gwleidyddiaeth
bron pawb wedi marw o’r gwddf i fyny
ie ~ chi’n cadarnhau pob un amheuaeth
achos putain fawr yw prydain fawr
yn marw’n araf ar y llawr
ac ni gaf i y sylw rwyf yn haeddu
gan fy mod i’n byw mеwn cymru crymi

cefais fy enw yn y faner
efallai nawr af i i’r nеfoedd
gyda’r pobl yn yr orsedd
ond na, yr unig nefoedd rwy’n mynd i
yr unig nefoedd rwy’n mynd i yw mynwent aberteifi
lle nad oes angylion yn chwarae y delyn
jyst tapiau datblygu

tanddaearol, o dan y ddaear


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...