lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu datblygu - ga i fod siôn corn?

Loading...

reit. gan fy mod wedi gorfod ysgrifennu lot o gachu er mwyn cael cyfweliadau ar gyfer swyddi cachu ~ clerc, gwerthu petrol, gyrru tacsi, athro ~ dyma’r unig curriculum vitae sy’n cyfri

ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?

roedd y bbc yn chwilio am gynhyrchydd ‘helo bobl’ beth amser yn ôl. anfonais ffurflen gais gonest ~ dywedon nhw “na!”
dywedon nhw “na! ti ddim digon da ~ ti rhy’ dda.”

ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
cael llond bol o fod yn iesu grist

enw fi, d.r.e., nôl yn y dre, nôl yn y lle
y system sydd yn achosi’r canser, nid y smygu
felly unrhyw un sy’ eisiau fy nghyflogi, dyma cv

ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?

fy nghyfeiriad i dan ofal ‘the public shelter’ yn aberystwyth
rwy’n cynnwys hwn i unrhyw berson caredig
fy niddordebau ydy gwin, ysmygu ac unrhyw fath o gyfathrebu
felly plîs
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
wedi cael digon o teimlo fel iesu grist ar y pyst
os y sign cyntaf o gwallgofrwydd yw siarad gyda’ch hunain, yr ail yw gwrando ar bobl еraill, a’r trydydd yw ddim siarad â’ch hunain
felly plîs
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
sean connery, 007

fy addysg, y bachau oеdd yn amhosib i’w osgoi
roedd fy mam~gu yn well athrawes na un o’r diawled â’r sialc
roedd hi arfer fy meddwi ar sheri bob bore ers o’n i yn saith
felly plîs
ga’ i fod siôn corn?
bob bore dydd sul, pob dydd fel dydd sul, yn stesion cant a mil

wel rwy wedi bod yn sâl
nid yr yfed neu’r drygs achosodd y peth
jyst yr ysgolion a’r ffaith oedd rhaid i mi gymysgu cyn wybod beth oedd llenyddiaeth
yr ail beth oedd y bobl nath geisio sgriwio fi i fyny, i fyny, i fyny
a nawr i lawr, a nawr i lawr
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?

fy addysg bellach
doeddwn i ddim eisiau mynd i brifysgol newydd cymru yn nhrefforest
ces i radd mewn dyniaethau yn 1986
ond dim ond un peth dysgais yno mewn tair mlynedd
mae’n bosib i rhwyun sydd wedi bod yn cymryd heroin am flynyddoedd i gael ‘gwell gradd’ na rhywun sydd wedi gwario eu penwythnosau yn mynychu cwrddiau diolchgarwch
diolch i’r tad
ga’ i fod siôn corn?
wel rwy’ wedi dioddef mewn swyddi yn fy amser
chi’n gweld, nid yr hufen sy’n codi i’r brig, y sgym sydd yn
mae chwysu mewn swydd fel berwi pâr o sanau budr
nid fel yfed potel o laeth cymreig
ei, ti, fi, ni, ree, ree, ree
ga’ i fod siôn corn?

rwy’ jyst isio parhau er mwyn parhau
canlyniad sberm ac ŵy ydwyf
sai’ eisiau dilyn llwyddiant yn llygaid neb
byddwn ddigon hapus yn pysgota am gweddill fy oes, paentio’r walydd
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
rwy wedi cael llond bol o fod yn iesu grist

crefydd
wel, yn y bôn roedd yr hen j.c. yn iawn am garu eich cyd~ddyn a defnyddio eich talentau, etc
pwy oedd e?
wel chi, y fi, y ni
fi yw’r comiwnydd ola’ yn ewrop sy’ rhy sgint i fynd i siwba
ei ti, ni, fi, chi pawb ond nhw, ei ni, ga’ i fod siôn corn?

o ie, fi ‘di’r comiwnydd ola’ yn ewrop ac mae lloegr yn cael ei redeg gan fab boi oedd yn y syrcas
mae’r syrcas yn cael ei redeg gan fab boi oedd yn y syrcas
chi’n gweld beth fi’n dweud?
ystyr bywyd, wel, mae’r dyn hynaf yn y wlad yn yfed rym
ei, ti, fi, ni, plîs efo’n gilydd, a ga’ i fod siôn corn?
manylion arall perthnasol
sai’ jyst eisiau cymru rydd, dwi isio pob pentref yn rhydd
pob person yn rhydd. felly o’r gad, nid i’r gad mr. iwan
ni oedd coloni cyntaf yr ymerodraeth brydeinig, byddwch yn fwy goddefgar
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
gad fi llonydd diafol

pwy yw’r saes pal?
car dy gymydog
pwy yw’r saes pal?
car dy gymydog
a pwy dwi? a pwy y’ chi?
ni, ni, ni
nid yr e am ecstasi
ni, ni, ni
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
ga’ i fod siôn corn?
dyma cv i achub fy llawysgrifen a fy inc
a fy inc, mae’r inc yna
ac yma oh. hud!
ni yw llwyth coledig, colegol, colledig israel reit…


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...