lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu cerys matthews - y darlun

Loading...

[verse 1]
dwy law yn erfyn
sydd yn y darlun
wrth ymyl fy ngwely
bob bore a nos
mae’u gweddi’n un dlos
mi wn er na chlywaf hi

[verse 2]
pan af i gysgu
mae ddwy law hynny
wrth ymyl fy ngwely
mewn gweddi ar dduw
i’m cadw i’n fyw
mi wn er na chlywaf hi

[verse 3]
a phan ddaw’r bore
a’r wawr yn ole
wrth ymyl fy ngwely
mae’r weddi o’r hyd
yn fiwsig i gyd
mi wn er na chlywaf hi

[verse 4]
rhyw nos fach dawel
fe ddwg yr awel
o ymyl fy ngwely
yr weddi i’r sêr
fel eos o bêr
a minnau’n ei chlywed hi


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...