lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu cerys matthews - lliw gwyn rhosyn yr haf

Loading...

dydd da fo it ti, seren olau
lliw gwyn rhosyn yr haf
tydi yw’r gywrain ferch a garaf
lliw gwyn rhosyn yr haf
wel cau dy geg yr hen oferddyn
y casa’ fu ‘rioed ar wyneb y tir!
mi grogaf fy hun cyn dof i’th ganlyn
mewn gair, dyna ti’r gwir

y mae dy lais di, feinir addfwyn
lliw gwyn rhosyn yr haf
yn fy nghl~st fel tannau telyn
lliw gwyn rhosyn yr haf
rwyf fi’n dy glywed tithau’n lleisio
y casa’ fu ‘rioed ar wyneb y tir!
‘run fath a nodau cŵn yn udo
mewn gair, dyna ti’r gwir

wel moes im wybod, gwen lliw’r manod
lliw gwyn rhosyn yr haf
pam roe’t ti gynt mor ddrwg dy dafod
lliw gwyn rhosyn yr haf
i ddangos moddau merched meddal
y mwynaf erioed ar wyneb y tir!
yn gweddi ”paid!” ac eto’n gadael
mewn gair, dyna ti’r gwir
os wyt ti’n mynd i’m troi i heibio
lliw gwyn rhosyn yr haf
wel, dyro gusan cyn ffarwelio
lliw gwyn rhosyn yr haf
wel waeth im ddweud a gwir na pheidio
y mwynaf erioed ar wynеb y tir!
cest ddwy o’r blaen cei bymthеg eto
mewn gair, dyna ti’r gwir


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...