lirik.web.id
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9 #

lirik lagu ar log - fflat huw puw / pibddawns gwŷr wrecsam

Loading...

mae sŵn yn mhortinllaen, sŵn hwylie’n codi
blocie i gyd yn gwichian, dafydd jones yn gweiddi
ni fedra’i aros gartre yn fy myw
rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar fflat huw puw

fflat huw puw yn hwylio heno
sŵn y codi angor, mi fyna’i fynd i forio

ni fedra’i aros gartre yn fy myw
rhaid i mi fynd yn llongwr iawn ar fflat huw puw

mi bryna’i yn iwerddon sana sidan
sgidie bach i ddawnsio, a rheiny a bycle arian
mi fyddai’n ŵr bonheddig tra bydda’i byw
os ca i fynd yn llongwr iawn ar fflat huw puw

fflat huw puw yn hwylio heno
sŵn y codi angor, mi fyna’i fynd i forio

mi fyddai’n ŵr bonheddig tra bydda’i byw
os ca i fynd yn llongwr iawn ar fflat huw puw

mi gadwai’r fflat fel parlwr gore
bydd sgwrio mawr a chrafu bob ben bore
mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw
pan fydda i yn gapten llong ar fflat huw puw
fflat huw puw yn hwylio heno
sŵn y codi angor, mi fyna’i fynd i forio

mi fydd y pres yn sgleinio ar y llyw
pan fydda i yn gapten llong ar fflat huw puw


Lirik lagu lainnya:

LIRIK YANG LAGI HITS MINGGU INI

Loading...